CROESO
Mae Rhwydweithiau Lles Integredig yn gweithio ar y cyd i helpu i gynnal a gwella lles yn ein cymunedau.
Maent yn dechrau gyda'r hyn sydd gennym eisoes; adeiladu ar yr hyn sy’n gryf, a chydweithio â’r cryfderau a’r asedau unigryw sy’n bodoli yn ein cymunedau:
-
EIN POBL - Eu profiad, perthnasoedd, gwybodaeth a sgiliau
-
EIN LLEOEDD - Ein lleoedd iach a'n hasedau cymunedol
-
EIN DARPARIAETH - Y cymorth lles a'r gweithgareddau a ddarperir gan wasanaethau a grwpiau
Mae Rhwydweithiau Lles Integredig (IWNs) ar hyn o bryd yn gweithredu mewn ardaloedd dethol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, a Thorfaen gyda gwaith yn yr ardaloedd hynny wedi'i deilwra'n briodol i flaenoriaethau lleol.
Darganfyddwch fwy am y cefndir a'r gwaith paratoi ar gyfer IWNs trwy glicio yma
Am y wefan hon
Ar y wefan hon, mae gwybodaeth am y gwaith yn yr ardaloedd hynny yn yr adran Lles Cymunedol, ynghyd â mwy o fanylion am IWN penodol a mentrau llesiant cysylltiedig, megis Cyfeillion Lles, a Cymorth Lles (gan gynnwys dolenni i'r Melogwefan cymorth lles meddwl a gweithgareddau llesiant creadigol CWTSH).
Yn ogystal, ar hyn o bryd, mae yna hefyd adran benodol ar y gwaith y mae rhaglen IWN yn ymwneud ag ef i gefnogi ymatebion i bandemig COVID ac adferiad cymunedol. Cliciwch ar y paneli isod neu defnyddiwch ddewislen y wefan uchod